Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Mawrth 2023
Amser:
09.35 -
12.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13238
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Oliver Carpenter, Siambrau Cymru Amanda Wilkinson, Director, Universities Wales, Prifysgolion Cymru Berwyn Davies, Addysg Uwch Cymru Eluned Haf, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Mali Thomas, Urdd Gobaith Cymru Nia Williams, Amgueddfa Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhea James (Dirprwy Glerc) Marc Wyn Jones (Ysgrifenyddiaeth) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr o’r meysydd Addysg Uwch a busnes
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Addysg Uwch a chynrychiolwyr busnes.
3 Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Sesiwn dystiolaeth gyda chyrff diwylliannol a threftadaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o gyrff diwylliannol a threftadaeth.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: ystyried y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod amserlen yr ymchwiliad yn y cyfarfod nesaf.
6 Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth fel y’i drafftiwyd a chytuno arni.
7 Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: Ystyried yr adroddiad drafft ar ganfyddiadau cychwynnol y Pwyllgor
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod manylion eraill yn ymwneud â’r adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
7.2 Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar ddatganiad yn y cyfryngau i'w ryddhau ynghylch yr honiadau ynghylch Undeb Rygbi Cymru.